Your basket
John Piper - Mynyddoedd Cymru
Price: £9.99
Availability: In stock!
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn y blynyddoedd wedi hynny, ymwelodd John Piper â Chymru gyda’u deulu droeon er mwyn darlunio a phaentio’r mynyddoedd. Y dirwedd ddramatig a’i ddenodd, fel artistiaid eraill drwy’r oesau, ond roedd ganddo ddiddordeb brwd yn naeareg yr ardal hefyd – yr 'esgyrn a’r strwythur' yn ei eiriau ef.
Byddai Piper yn cyrraedd ei leoliadau mewn car, ar feic ac ar droed a dringai filltiroedd, weithiau mewn gwynt a glaw, i lecynnau unig, anghysbell. Byddai’n darlunio yn y fan a’r lle mewn nifer o gyfryngau, gan ddatblygu’r gwaith yn ddiweddarach yn brintiau neu’n baentiadau. Roedd ei dechneg uniongyrchol, a lifai mor naturiol, yn gweddu i’r dim i weadau a lliwiau garw’r mynyddoedd a’r creigiau.
Mae pob un o’r delweddau grymus yma yn cyfleu perthynas ddwys Piper â mynyddoedd Cymru.



