Your basket
Y Llychlynwyr yng Nghymru
Price: £14.99
Availability: In stock!
ymchwil archaeolegol
Ychydig iawn o gyhoeddiaddau am y cyfnod hwn sy'n rhoi lle amlwg i dystiolaeth o Gymru, er gwaetha'r ffaith bod enwau fel Fishguard, Caldy, a Skomer yn datgelu'n dylanwadau Sgandinafaidd. Trwy ddadansoddi darganfyddiadau hanesyddol a gwaith maes diweddar, mae'r llyfr hwn yn darparu trosolwg cynhwysfawr o'r effaith gafodd y Llychlynwyr ar Gymru. Yn hyfryd o ddarluniadol a lliwgar, gyda lluniau, cynlluniau a ffotograffau o arteffactau a safleoedd go iawn, gan gynnwys y cloddio diweddar yn Llanbedrgoch ar Ynys Môn, mae'r gyfrol hon yn gydymaith hanfodol i astudiaethau am y Llychlynwyr yng Nghymru.
'Mae'r dull ysgolheigaidd o ymdrin â'r deunydd yn cael ei wrthbwyso'n effeithiol gan wledd o ffotograffau o bobl, lleoedd ac arteffactau yn ogystal â gan luniau manwl, mapiau a diagramau i ddenu sylw'r darllenwr sy'n hoffi pori'.
Adolygiad o www.gwales.com, gyda chaniatâd Cyngor Llyfrau Cymru.



