Darganfod y Gymru Gynnar
Price: £14.99
Availability: In stock!
Dyma saith deg gwrthrych eiconig; gyda’i gilydd maent yn olrhain hanes ein pobl a’r tir sy’n cael ei adnabod fel Cymru heddiw. Maent yn amrywio o ddannedd plentyn Neanderthalaidd i fownt ysblennydd ac arno arfbais Owain Glyn D?r. Ceir lluniau hardd o bob gwrthrych a disgrifiad manwl o’i bwysigrwydd, yr hyn y gallwn ei ddysgu ganddo a’i ran mewn hanes.
Mae’r gyfrol gain hon hefyd yn datgelu sut mae haneswyr ac archaeolegwyr yn llunio, o'r miloedd o wrthrychau gwahanol mewn casgliad cenedlaethol, stori’r genedl – a’n stori bersonol ni. Mae’n broses ryfeddol.
Mae’r llyfr yn cynnwys dros gant o luniau lliw, gan gynnwys darluniau ail-greu dychmygus a map yn dangos ble darganfuwyd pob eitem.
"a handsome paperback packed with page after page of close-up photography with expert commentaries on each of the objects..."
Salon, Society of Antiquaries








